Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Statkraft yn cyhoeddi ei brosiect hydrogen gwyrdd cyntaf yn Sir Benfro

11 Oct, 2022

Gallai safle hen Ddepo Arfau'r Llynges Frenhinol yn Sir Benfro fod yn arwain y ffordd cyn hir o ran cynhyrchu tanwydd ar gyfer bysys, cerbydau HGV, trenau, a diwydiant yng Nghymru yn fwy ecogyfeillgar, fel rhan o gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw.

Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn, sy'n cael ei ddatblygu gan Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, yw prosiect hydrogen gwyrdd cyntaf y cwmni i gael ei gyhoeddi yn y DU. Yr Hwb yw'r cyntaf o blith nifer o brosiectau a gynllunir gan Statkraft a fyddai'n creu swyddi ac yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau lleol, gan helpu gwasanaethau cludiant i roi'r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil a mabwysiadu dewisiadau glân.

Byddai'r gwaith yn Sir Benfro, y bwriedir ei adeiladu ar safle sied trosglwyddo trenau segur, yn cynhyrchu tua thair tunnell o hydrogen gwyrdd bob dydd. Mae hyn yn ddigon i redeg un bws am dros 40,000 o filltiroedd, neu'r hyn sy'n cyfateb i deithio 350 o weithiau o Abergwaun i Gaerdydd, ond heb yr allyriadau niweidiol a gynhyrchir gan danwyddau diesel neu betrol traddodiadol.

Yn draddodiadol, caiff hydrogen ei echdynnu o danwydd ffosil, ond mae cynnig Statkraft ar gyfer Trecwn yn ymwneud â hydrogen gwyrdd – sy'n cael ei echdynnu o ddŵr trwy proses a bwerir gan drydan a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy. Yn yr achos hwn, o dri thyrbin gwynt a phaneli solar ar y ddaear, heb unrhyw allyriadau carbon.

Dyfeisiwyd y gell danwydd hydrogen yng Nghymru yn ôl ym 1842 gan William Grove, ac mae'n cael ei defnyddio ers hynny fel rhan o brosesau diwydiannol a lleoliadau masnachol. Gellir defnyddio hydrogen at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys tanwydd di-garbon, mewn diwydiannau, a gweithgynhyrchu.

Bwriedir i'r hydrogen gwyrdd a gynhyrchir yn Nhrecŵn gael ei ddefnyddio i bweru trenau sy'n rhedeg ar reilffyrdd i'r gorllewin o Abertawe, gan gyflawni llawer o fanteision trydaneiddio, megis defnyddio tanwydd di-garbon, ond am gostau cyfalaf sylweddol is ac â llai o ofynion o ran seilwaith newydd. Gallai hefyd bweru fflyd lorïau Cyngor Sir Benfro a bysys lleol, oherwydd bydd y safle'n gallu cynhyrchu digon o hydrogen gwyrdd i redeg tua 170 o fysys bob dydd pan fydd yn weithredol.

Byddai'r cynigion yn helpu i gefnogi Strategaeth Sero Net Llywodraeth Cymru i gynhyrchu cyfwerth â 70% o'r trydan a ddefnyddir yng Nghymru drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, yn ogystal â chyfrannu at gyflawni'r Cynllun Gwyrdd Mawr, sef strategaeth datgarboneiddio Cyngor Sir Penfro.

Bydd y cyfleuster arfaethedig yn cynhyrchu dros 10MW o drydan adnewyddadwy, felly caiff ei ddiffinio fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Felly, caiff y cais cynllunio ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PEDW), a gwneir y penderfyniad terfynol gan weinidogion Cymru. Mae ymchwiliadau cynnar ar y safle wedi dechrau, a bydd Statkraft yn cyflwyno cais cwmpasu i PEDW cyn bo hir, i sicrhau y cynhelir yr astudiaethau amgylcheddol priodol wrth ddatblygu'r cynigion.

Mae Statkraft hefyd yn cysylltu â thua 5,000 o gartrefi a busnesau yn y gymuned leol i gynnig rhagor o fanylion am y prosiect, a digwyddiadau ymgynghori.  Cynhelir sesiynau galw heibio i'r cyhoedd rhwng 3yp a 7yh, ddydd Llun, 24 Hydref ar y safle yn Ystafell Fwrdd Cwm Trecwn; ddydd Mawrth, 25 Hydref yn Neuadd Goffa Treletert; a dydd Mercher, 26 Hydref yng Nghanolfan Dysgu Cymunedol Abergwaun. Cynhelir gweminar hefyd ar 9 Tachwedd, ac mae rhagor o fanylion am hyn, y cynigion, a sut y gall pobl gynnig adborth, ar wefan y prosiect: trecwn-energy.wales

Dywedodd Matt Kelly, o Statkraft UK: "Mae Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn yn gyfle cyffrous i gynhyrchu ynni gwyrdd cartref i'w ddefnyddio'n lleol, ac mae ganddo'r potensial i fod yn gatalydd i sbarduno ailddatblygu Cwm Trecwn. Rydym yn cydweithio'n agos â Chyngor Sir Penfro, ac er mai megis dechrau y mae'r prosiect, rydym yn awyddus i glywed barn pobl leol.

"Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd ein prosiectau ynni adnewyddadwy yn cynnig buddion ehangach i bobl leol, ac rydym wedi rhoi dros £2 filiwn i gymunedau gerllaw ein prosiectau, yn ogystal â gweithio i wneud gwelliannau amgylcheddol ar y safleoedd rydym yn eu rhedeg. Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o fanylion am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu."

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a'r Newid yn yr Hinsawdd: "Mae'r cyhoeddiad heddiw ynghylch Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn yn dystiolaeth o'r momentwm cynyddol yn y farchnad ynni gwyrdd yn Sir Benfro.

"Mae datblygu a meithrin technoleg a diwydiannau adnewyddadwy ledled y sir, gan gynnwys yn ein cymunedau mwy gwledig, yn hanfodol i'n galluogi i sicrhau y bydd Sir Benfro a rhanbarth y De-orllewin yn rhan allweddol o ymgyrch ynni adnewyddadwy Cymru."

UK Press contacts

Sarah Howarth
Head of Communications, Statkraft UK
Gary Connor
Senior Media Relations Manager, Statkraft UK