Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Statkraft yn cyrraedd carreg filltir o filiwn o bunnoedd ar gyfer cronfa gymunedol Fferm Wynt Alltwalis

29 Nov, 2022

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cyhoeddi bod y gronfa gymunedol sy’n gysylltiedig â’i Fferm Wynt yn Alltwalis bellach wedi dyfarnu dros £1 miliwn i glybiau, cymdeithasau, a sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth.

Lleolir Fferm Wynt Alltwalis, a ddaeth yn weithredol yn 2009, ac sy’n pweru tua 16,500 o gartrefi ag ynni adnewyddadwy glân wedi'i gynhyrchu gartref, ger Coedwig Brechfa, i’r gogledd o Sir Gaerfyrddin, de Cymru.

Mae’r gronfa ar gael drwy gydol oes 25 mlynedd y fferm wynt ar gyfer blaengareddau a fydd o fudd i’r gymuned leol, â swm blynyddol sy’n codi’n flynyddol yn unol ag unrhyw gynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Mae’r prosiectau sydd wedi cael cymorth grantiau yn 2022 yn cynnwys adnewyddu Ysgol Alltwalis yn gyfleuster cymunedol, ariannu offer ar gyfer y clwb cinio yn Festri Tabernacl Pencader, gosod byrddau picnic a bwrdd cyfathrebu yn y Pafiliwn ym Mhencader, a chymorth i’r Cylchoedd Meithrin yn Llanllwni a Phencader, sef y fenter a aeth â'r gronfa dros y llinell miliwn o bunnoedd.

Rheolir y gronfa yn annibynnol o Statkraft, a chaiff ei harwain gan drigolion lleol sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau. Mae ei nodau’n cynnwys ariannu gweithgareddau a phrosiectau sy’n creu cymuned fywiog, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar brosiectau amgylcheddol, addysgol a chymunedol, â gweithgareddau awyr agored yn eu plith.

Mae sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth yn gymwys i ymgeisio am grantiau o’r gronfa, a bydd y dyddiadau cau ar gyfer y pedwar cyfnod ymgeisio yn ystod 2023 ar 31 Ionawr, 18 Ebrill, 27 Mehefin, a 3 Hydref. Dylai ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwraig y gronfa, Meinir Evans, ar 01559 395 669 neu meinir.evans@btinternet.com i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd Glyn Griffiths, Rheolwr Safle Statkraft yn Alltwalis: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y gymuned leol yn dal i elwa o’r gronfa a sefydlwyd pan adeiladwyd safle Alltwalis dros ddegawd yn ôl. Yn ogystal â darparu ynni glân, gwyrdd, adnewyddadwy, mae'n bwysig fod Statkraft yn gymydog da, a bod y rhai sy'n byw ger ein safleoedd yn elwa'n uniongyrchol, ac felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi cymaint o achosion a mentrau teilwng yn yr ardal leol.”

Dywedodd Dewi Thomas, Cadeirydd Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis: “Mae’r garreg filltir hon yn teimlo fel cyfle i bwyso a mesur ac edrych yn ôl ar yr ystod amrywiol o brosiectau a gefnogwyd ers sefydlu’r gronfa; maent yn cynnwys dosbarthu bwyd ffres yn ystod y pandemig, cynorthwyo gofalwyr ifanc i gael seibiant o’u dyletswyddau a helpu i ariannu bws mini newydd ar gyfer clwb canĊµio lleol. Mae’r arian hwn yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sy’n byw ac sy'n gweithio yn ein cymuned leol.”

Contact

Gary Connor
Media Relations Manager, Statkraft UK