Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Cynigion ar gyfer Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn yn cyrraedd y garreg filltir nesaf

28 Mar, 2023

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cyhoeddi bod ei brosiect hydrogen gwyrdd cyntaf yn y DU wedi symud ymlaen, gyda newidiadau i’r cynnig yn dilyn adborth gan gymunedau lleol, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd yn ehangach

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cyhoeddi bod ei brosiect hydrogen gwyrdd cyntaf yn y DU wedi symud ymlaen, gyda newidiadau i’r cynnig yn dilyn adborth gan gymunedau lleol, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd yn ehangach.

Mae ymgysylltu cynnar â chymunedau lleol a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2022 wedi dylanwadu ar gynlluniau ar gyfer Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn yn Sir Benfro. Adlewyrchir y rhain yn yr Adroddiad Cwmpasu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol sydd bellach wedi'i gyflwyno i Gynllunio ac Amgylchedd Cymru.

O ganlyniad uniongyrchol i’r adborth a dderbyniwyd gan bobl leol, mae tîm prosiect Statkraft bellach yn ystyried dau opsiwn ar gyfer safle’r cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd o fewn hen Ddepo Arfau’r Llynges Frenhinol ac wedi gwneud newidiadau i ffin y prosiect ar gyfer y fferm solar.

Trecwn green energy hubDewiswyd yr opsiwn cyntaf ar gyfer Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn, a gyflwynwyd yn ystod yr ymgysylltu cynnar, am resymau hygyrchedd, yn enwedig dosbarthiad hydrogen ar gyfer trafnidiaeth a defnydd diwydiannol.

Mae’r ail opsiwn, sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Cwmpasu, yn symud cydrannau ymhellach oddi wrth eiddo preswyl ac mae ganddo fanteision o ran agosrwydd at gyflenwad dŵr y safle. Bydd y lleoliad terfynol a ffefrir yn cael ei lywio gan ganlyniadau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Mae'r ardal sy'n cael ei hystyried ar gyfer paneli solar wedi'i lleihau, gan ei symud ymhellach oddi wrth sawl eiddo cyfagos. Bydd y 42 hectar sy’n cael eu hystyried fel rhan o gynlluniau cychwynnol Statkraft yn cael eu lleihau ymhellach i tua 28 hectar yn y cynigion terfynol, a bydd y cynllun yn osgoi tir amaethyddol o ansawdd uchel, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Byddai Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn yn cynhyrchu tua thair tunnell o hydrogen gwyrdd y dydd. Mae hyn yn ddigon i redeg un bws cell tanwydd hydrogen am dros 40,000 o filltiroedd, neu’r hyn sy’n cyfateb i wneud 350 o deithiau o Abergwaun i Gaerdydd, ond heb yr allyriadau niweidiol a gynhyrchir gan danwydd diesel neu betrol traddodiadol.

Y gobaith yw y bydd hydrogen gwyrdd a gynhyrchir yn Nhrecwn yn cael ei ddefnyddio i bweru trenau sy'n rhedeg ar reilffyrdd i'r gorllewin o Abertawe. Mae trenau hydrogen yn darparu llawer o fanteision trydaneiddio rheilffyrdd, megis defnyddio tanwydd di-garbon, ond am gostau cyfalaf sylweddol is a gyda llai o ofynion am seilwaith newydd. Gallai hefyd bweru fflyd Cyngor Sir Penfro o gerbydau casglu sbwriel a bysiau lleol, neu ffatrïoedd a busnesau lleol.

Byddai’r cynigion yn helpu i gefnogi targedau ynni adnewyddadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru, i ddiwallu 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, yn ogystal â chyfrannu at gyflawni’r Cynllun Gwyrdd Mawr, strategaeth ddatgarboneiddio Cyngor Sir Penfro

Dywedodd Mícheál Ó Broin, Uwch Reolwr Prosiect yn Statkraft: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni, ac wedi rhannu eu meddyliau a’u syniadau ar gyfer Hwb Ynni Gwyrdd Trecwn. Mae’n galonogol iawn bod dros 80% o’r bobl a ddychwelodd y ffurflen adborth naill ai’n gefnogol iawn neu’n gefnogol, a gweld y prosiect yn cael ei gydnabod yn y Senedd, sydd, yn fy marn i, yn dangos awydd gwirioneddol i gynhyrchu ynni gwyrdd yn Sir Benfro ac yng Nghymru yn ehangach.

“Lle bo’n bosibl, rydym wedi ymateb i rai o’r materion allweddol a godwyd drwy wneud newidiadau i’r cynigion, sy’n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad cwmpasu. Bydd tîm y prosiect yn brysur dros y misoedd nesaf, yn cynnal astudiaethau ac arolygon ac yn adlewyrchu’r canlyniadau yn y cynnig manwl, yr ydym yn edrych ymlaen at ei rannu yn ddiweddarach eleni.”

Contact

Gary Connor
Media Relations Manager, Statkraft UK