Fferm wynt Sir Gaerfyrddin yn cefnogi ardal leol gyda chronfa gymunedol o £1m
Ers sefydlu’r gronfa yn 2011, mae 35 o sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth yng Nghaerfyrddin wedi elwa o gyllid, sydd ar waith am oes y prosiect.
Mae eglwysi, clybiau chwaraeon, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus lleol yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi elwa ar fuddsoddiad o dros £1 miliwn o'r gronfa budd cymunedol sy'n gysylltiedig â fferm wynt a weithredir gan Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop.
Mae Fferm Wynt Alltwalis, a ddaeth yn weithredol yn 2009, ac sy’n pweru’r hyn sy’n cyfateb i 16,500 o gartrefi ag ynni adnewyddadwy glân sy'n gynnyrch cartref, wedi’i lleoli ger Coedwig Brechfa, i’r gogledd o Sir Gaerfyrddin, De Cymru. Ers sefydlu’r gronfa yn 2011, mae 35 o sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth yng Nghaerfyrddin wedi elwa o gyllid, sydd ar waith am oes y prosiect.
Mae bron i hanner (49%) yr arian wedi’i fuddsoddi mewn gwella adeiladau a gwasanaethau cymunedol lleol, gyda bron i 15% o’r arian a ddyfarnwyd wedi’i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysgol ar gyfer ysgolion lleol a grwpiau Cylch Meithrin, yn enwedig yn ystod y pandemig. Yn ogystal, mae mwy na chwarter (28%) o'r arian wedi'i dderbyn gan grwpiau chwaraeon a hamdden, gan alluogi clybiau i wella offer a chyfleusterau ar gyfer eu haelodau. Mae'r arian sy'n weddill wedi'i fuddsoddi i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus megis y gwasanaeth tân ac achub lleol a chefnogi digwyddiadau fel yr Eisteddfod.
Rheolir y gronfa yn annibynnol ar Statkraft, a chaiff ei harwain gan drigolion lleol sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau. Mae ei nodau'n cynnwys ariannu gweithgareddau a phrosiectau sy'n creu cymuned fywiog, gan gynnwys y rhai sy'n canolbwyntio ar brosiectau addysgol a gwella cymunedol, gan gynnwys gweithgareddau awyr agored.
Mae sefydliadau a grwpiau cymunedol o fewn ardal Llanfihangel-ar-Arth yn gymwys i wneud cais am grantiau o'r gronfa. Mae pedwar cyfnod ymgeisio y flwyddyn gyda chylch terfynol 2023 yn cau ar 3 Hydref.
Dylai ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwr y gronfa Meinir Evans ar 01559 395 669 neu e-bostio meinir.evans@btinternet.com am ragor o wybodaeth.
Dywed Dewi Thomas, Cadeirydd, Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis: “Trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau, cyfleusterau a sefydliadau lleol, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llanfihangel-ar-Arth a gwella asedau cymunedol a fyddai fel arall yn mynd yn adfail. Rydym wedi gallu cefnogi ystod amrywiol o brosiectau, o adnewyddu ysgol Alltwalis fel cyfleuster cymunedol i ddarparu offer chwaraeon ar gyfer y maes hamdden yn Llanfihangel ar Arth.
“Fodd bynnag, rydym bob amser yn chwilio am syniadau neu fentrau cyffrous y gallwn eu cefnogi ar draws yr ardal, felly rydym yn croesawu pob cyflwyniad.”
Dywed Glyn Griffiths, Rheolwr Safle Statkraft yn Alltwalis: “Mae’n bwysig, yn ogystal â darparu ynni glân, gwyrdd, adnewyddadwy i gartrefi ledled Cymru, bod Statkraft yn gymydog da, a bod y rhai sy’n byw ger ein safleoedd yn elwa’n uniongyrchol. Rydym yn falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol a chefnogi cymaint o achosion a mentrau teilwng.”