Statkraft yn dathlu chwe deg mlynedd ers agor gwaith ynni dŵr arloesol yng Nghymru
I ddathlu’r digwyddiad, cynhyrchodd Statkraft ffilm newydd sy’n olrhain y gwaith o adeiladu Cynllun Ynni Dŵr Rheidol a’r modd y cafodd ei weithredu yn ystod y blynyddoedd cynnar
Mae Statkraft, sef cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi dathlu chwe deg mlynedd ers i Gynllun Ynni Dŵr Rheidol ger Aberystwyth agor yn swyddogol. Yn ystod y dathliad, daeth gweithwyr y gorffennol a’r presennol ynghyd, ochr yn ochr â’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd. I ddathlu’r digwyddiad, cynhyrchodd Statkraft ffilm newydd sy’n olrhain y gwaith o adeiladu Cynllun Ynni Dŵr Rheidol a’r modd y cafodd ei weithredu yn ystod y blynyddoedd cynnar, gyda chyfraniadau gan gyn-weithwyr.
Rheidol yw’r cynllun ynni dŵr mwyaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi bod yn nwylo Statkraft ers 2009. Mae’r cynllun 49MW yn cynhyrchu digon o ynni glân i roi pŵer i 35,000 o gartrefi.
Cafodd Gwaith Trydan Dŵr Rheidol, fel y’i gelwid yn wreiddiol, ei adeiladu gan y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog, a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu a chyflenwi trydan yng Nghymru a Lloegr, cyn iddo gael ei breifateiddio. Costiodd y cynllun £10 miliwn i’w adeiladu – mae hyn yn cyfateb i £180 miliwn heddiw. Cafodd ei agor yn swyddogol ar 3 Gorffennaf 1964.
Dechreuwyd ar y gwaith o’i adeiladu ym 1957, ac ar ei anterth roedd yn cyflogi oddeutu 1,800 o bobl. Llwyddodd y mwyafrif o’r pentrefi, y pentrefannau a’r ffermydd yn y dyffryn a’r mynyddoedd gerllaw’r cynllun i elwa ar y gwaith adeiladu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – boed hynny trwy gael rhwydwaith newydd o ffyrdd, pontydd a gridiau gwartheg, neu trwy gael ffordd ar draws argae Nant-y-Moch a agorodd lwybr hardd newydd i dwristiaid trwy fynyddoedd Pumlumon.
Dan berchnogaeth Statkraft, mae Rheidol yn dal i fod yn waith ynni dŵr gweithredol, ond mae hefyd wedi esblygu a thyfu, a bellach mae’n cynnwys canolfan reoli Statkraft ar gyfer y DU ac Iwerddon, gan reoli 15 o brosiectau ynni adnewyddadwy Statkraft a monitro bron i 40 o brosiectau ynni’r gwynt ac ynni’r haul ar ran mwy nag un trydydd parti. Hefyd, mae ganddo rôl hollbwysig o ran sefydlogi’r grid trydan, a bydd prosiectau a ddatblygir ac a weithredir gan Statkraft yn y dyfodol yn golygu y bydd Canolfan Reoli Rheidol, yn y pen draw, yn cyfarwyddo hyd at 45% o’r holl wasanaethau sefydlogi ar gyfer Prydain Fawr i gyd.
Fel rhan o’r dathliadau i gofio chwe deg mlynedd ers ei agor, gofynnodd Statkraft i bobl leol a arferai weithio yn Rheidol gysylltu a rhannu eu lluniau a’u hatgofion ynglŷn â’u hamser yn gweithio ar y cynllun. Erbyn hyn, mae’r lluniau a’r atgofion hynny wedi cael eu casglu ynghyd fel rhan o fideo newydd – The People Who Made Rheidol – y gellir ei wylio ar: https://www.statkraft.co.uk/rheidol-history/ a chyn bo hir bydd modd i bobl sy’n ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Rheidiol ei wylio hefyd.
Dyma’r rhai a gyfrannodd:
- Bill Doyle, gŵr 98 oed sy’n hanu o Iwerddon yn wreiddiol. Roedd ymhlith y labrwrs a fu wrthi’n tyllu’r twneli tanddaearol a ddefnyddid i gludo dŵr ar gyfer cynhyrchu trydan.
- John Elfed Jones, a oedd yn ddirprwy reolwr prosiect yn ystod y gwaith adeiladu. Aeth yn ei flaen i fod yn ddirprwy reolwr yr orsaf bŵer.
- Margaret Dryburgh, a oedd yn 17 oed pan ddechreuodd weithio fel ysgrifenyddes yn Rheidol ym 1963.
- Dai Charles Evans, a fu’n gweithio yno mewn gwahanol rolau rhwng 1961 a 1991, yn cynnwys fel gyrrwr a gweithredwr yn yr ystafell reoli. Mae’n ymddangos gyda’i wraig Nancy Evans a fu’n dywysydd yn yr orsaf ynni am bron i 20 mlynedd.
Mynychodd y cyn-weithwyr y dathliad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymwelwyr Rheidol. Fe wnaeth Barbara Flesche, Is-lywydd Gweithredol Statkraft ar gyfer Ewrop, a Kevin O’Donovan, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU, ddiolch iddynt am wasanaeth cyfunol o bron i 70 yn Rheidol.
Medd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd ac Aelod o’r Senedd dros Geredigion: “Braint oedd cael ymuno â Statkraft i ddathlu chwe deg mlynedd ers agor Rheidol, a chael cyfarfod â rhai o’r gweithwyr a helpodd i’w adeiladu, yn ogystal â’r gweithwyr presennol sy’n parhau i sicrhau ei fod yn ffynnu.
“Mae’n arbennig o braf gweld bod Statkraft nid yn unig yn dathlu treftadaeth beirianneg Cymru, ond ei fod hefyd yn edrych tua’r dyfodol – gan gynnig prentisiaethau i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i greu a chadw swyddi yng Ngheredigion – sef rhanbarth a all fod yn hollbwysig o ran ysgogi’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy yng Nghymru.”
Yn ôl Dennis Geyermann, Is-lywydd Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Statkraft: “Mae’n briodol inni ddathlu ochr yn ochr â rhai o’r bobl a adeiladodd Rheidol, ac rydw i’n falch ein bod wedi gallu dathlu eu cyfraniadau. Pan gomisiynwyd y cynllun hwn, y disgwyl oedd y byddai’n para oddeutu chwe degawd. Heddiw, gallwn ddweud y bydd yma am chwe degawd arall – a mwy, yn ôl pob tebyg. Rydym yn falch mai ni yw ceidwaid Rheidol a bod ei ddyfodol yn ddiogel.
“Ond wrth inni ddathlu’r gorffennol, mae’n bwysig inni edrych tua’r dyfodol. Mae Rheidol yn strategol bwysig i Statkraft – hwb ar gyfer swyddi gwyrdd medrus yng nghefn gwlad Cymru. Ac wrth inni barhau i ddatblygu prosiectau gwynt, haul, grid, dŵr a hydrogen gwyrdd, bydd y tîm yn y fan hon yn ehangu mwy fyth mewn blynyddoedd i ddod, ac rydym yn benderfynol y bydd Rheidol yn parhau i weithredu mewn ffordd a fydd yn gwasanaethu’r gymuned leol honno a helpodd i’w adeiladu. Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at drawsnewid i ynni glanach a chefnogi’r swyddi sy’n angenrheidiol ar gyfer gwireddu hynny.”