Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Y Prif Weinidog yn torri tir newydd ar gynllun sefydlogrwydd grid trydan Abertawe - y cyntaf o’i fath yng Nghymru

12 Dec, 2024

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill ar brosiect ynni gwyrdd arloesol i’r gogledd o Abertawe, yn dilyn seremoni arloesol a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill ar brosiect ynni gwyrdd arloesol i’r gogledd o Abertawe, yn dilyn seremoni arloesol a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS. 

Parc Grid Gwyrddach Abertawe yw’r cynllun sefydlogrwydd grid trydan cyntaf yng Nghymru gan Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, ac mae'n cyfateb i tua £70m o fuddsoddiad yn y broses o drawsnewid ynni yng Nghymru.

First Minister at Swansea GGPDaw’r digwyddiad, a gynhaliwyd gyda Llysgennad Norwy i’r Deyrnas Unedig, Ei Ardderchogrwydd Tore Hattrem yn bresennol, yn fuan ar ôl i’r Prif Weinidog nodi ei bwriad i gyflymu’r broses o ddefnyddio ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddileu rhwystrau i fuddsoddi.

Bydd y cynllun Parc Grid Gwyrddach yn defnyddio chwe sefydlogydd cylchdroi mawr i efelychu’r tyrbinau sy’n troelli mewn gorsaf bŵer draddodiadol. Bydd y dechnoleg arloesol yn gymorth i gadw’r goleuadau yng nghartrefi Cymru ymlaen, pan fydd diffygion neu amhariad ar y grid – heb fod angen troi y gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil traddodiadol ymlaen i gynnal amledd sefydlog o drydan o'r grid. 

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd y safle yn cyfrannu at gyflawni amcanion sero net a datgarboneiddio ynni Llywodraeth Cymru a'r DU, gan helpu i wneud tanwyddau ffosil yn rhywbeth o'r gorffennol a hybu diogelwch ynni'r genedl. Bydd y dechnoleg hefyd yn helpu i ddarparu cyflenwad ynni sefydlog, diogel a rhatach i gartrefi, busnesau a sector ddiwydiannol Cymru.

First Minister at Swansea Greener Grid Park

Derbyniodd Statkraft y cytundeb i ddarparu gwasanaethau sefydlog gan NESO - Gweithredwr Cenedlaethol y System Ynni - o dan gam tri ei Rhaglen Fraenaru Sefydlogrwydd, yn 2022. Dywedodd NESO y bydd y cytundebau yn sicrhau £14.9bn o arbedion rhwng 2025 a 2035. Cafodd y cais cynllunio, a gafodd gefnogaeth unfrydol gan Gyngor Abertawe, ei ddiwygio gan Statkraft i gynnwys dau gyfadferydd cydamserol, er mwyn i’r safle allu darparu sefydlogrwydd i’r grid yn fwy effeithiol.  

Abertawe fydd y trydydd cynllun i ddarparu sefydlogrwydd trwy ddefnyddio sefydlogyddion cylchdroi, ar ôl Keith, ym Moray, a Lister Drive yn Lerpwl. Mae’r ddau safle yma eisoes yn weithredol ac yn arbed 216,000 tunnell o CO2e y flwyddyn. 

First Minister at Swansea Greener Grid ParkYn ystod ei hymweliad â’r safle yn Nhreforys, ar gyrion Abertawe, cyfarfu’r Prif Weinidog ag aelodau o dîm prosiect Statkraft, a chydweithwyr eraill sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Cafodd gyfle i ddarganfod mwy am y cynlluniau ar gyfer y Parc Grid Gwyrddach, a sut y bydd y dechnoleg hon yn gymorth i alluogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol yng Nghymru, fel ffermydd gwynt a solar i weithredu ar grid trydan Prydain Fawr.

Dim ond un rhan o strategaeth ehangach Statkraft i wella seilwaith ynni’r DU yw’r cynllun hwn, gyda buddsoddiad o fwy na £4 biliwn yn yr arfaeth, a bron i 20 prosiect gyda chaniatâd cynllunio, a mwy o brosiectau ar y gweill gyda gwynt, solar, ynni dŵr a hydrogen gwyrdd. Mae’r amrywiaeth o ran technolegau adnewyddadwy yn golygu bod Statkraft yn cyfrannu at sefydlogrwydd y grid, ac yn sicrhau system ynni wydn, amlbwrpas sy'n gallu diwallu gofynion y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Gallai gofynion trydan Cymru dreblu erbyn 2050, felly mae’n bwysig bod seilwaith fel Parc Grid Gwyrddach Statkraft yn Abertawe ar waith i gefnogi’r grid a sicrhau y gall ymdopi â’r galw cynyddol yn y ffordd fwyaf effeithlon a chyfeillgar i’r amgylchedd. “Mae cynlluniau fel hyn yn bwysig i sicrhau ein bod yn barod i barhau i bontio at fwy o ynni adnewyddadwy, gan gyflawni un o fy mlaenoriaethau ar gyfer twf gwyrdd. Roeddwn hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni Alltraeth wedi ei greu, a fydd yn dod â’r arbenigedd sydd ei angen arnom ynghyd, a’n cynorthwyo i gyflawni ein targedau ynni adnewyddadwy.”

Dywedodd y Gweinidog Ynni, Michael Shanks AS: “Mae hon yn garreg filltir enfawr wrth i waith ddechrau ar y cynllun sefydlogrwydd grid pŵer glân yng Nghymru – enghraifft wych o’r modd y mae Prydain Fawr yn parhau i gefnogi technoleg ynni glân er mwyn datgloi buddsoddiadau a phweru ein cartrefi a’n busnesau, a sicrhau bod ein gwlad yn llawn ynni glân.

“Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rydym eisiau gweld mwy o brosiectau fel hyn yng Nghymru a ledled y DU – yn creu swyddi lleol medrus ac yn ein gyrru ymlaen tuag at ein hamcanion sero net.”

Dywedodd Richard Mardon, Pennaeth Datblygu Statkraft yn y DU: “Mae Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn enghraifft amlwg o sut y gall Cymru fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer arloesi ynni gwyrdd, a darparu atebion lleol er budd cymunedau Cymru, tra’n atgyfnerthu diogelwch ynni ehangach y genedl. Bydd cynlluniau arloesol fel hyn yn cynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy i’r grid, gan ostwng biliau defnyddwyr a chwsmeriaid, a lleihau allyriadau carbon i bawb.”

Contact

Gary Connor
Senior Media Relations Manager, Statkraft UK