Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Statkraft wedi rhoi caniatâd cynllunio i gynllun grid trydan arloesol yn Abertawe

05 Jul, 2023

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu prosiect arloesol i'r gogledd o Abertawe

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu prosiect arloesol i'r gogledd o Abertawe, a fydd yn cynyddu sefydlogrwydd y grid trydan, ac yn caniatáu i fwy o ynni adnewyddadwy gael ei drawsyrru drwy'r rhwydwaith.

Hyd yn oed pan fo digon o ynni adnewyddadwy i fodloni gofynion cartrefi a busnesau yng Nghymru, mae angen i Grid Cenedlaethol ESO - sy'n rhedeg y system drydan ym Mhrydain - atal ffermydd gwynt a solar weithiau, a throi gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil yn ôl ymlaen, dim ond er mwyn darparu sefydlogrwydd i'r rhwydwaith trydan. Maen nhw wedi nodi Abertawe fel ardal lle mae angen sefydlogi’r grid. Bydd y Parc Grid Gwyrddach newydd hwn yn darparu hynny mewn ffordd lân a gwyrdd, gan helpu i wneud tanwydd ffosil yn rhywbeth o'r gorffennol.

Mae'r sefydlogrwydd yn cael ei ddarparu gan beiriannau mawr, a elwir yn gyfadferyddion cydamserol. Mae'r rhain wedi'u dylunio i ddarparu'r inertia sydd ei angen i sefydlogi'r grid ac yn cael gwared ar yr angen i redeg gorsafoedd pŵer sydd wedi’u pweru gan danwydd ffosil. Byddai'r safle, pan gaiff ei adeiladu, yn edrych yn debyg iawn i unedau storio. Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau y gaeaf hwn.

Swansea greener grid park rendering

Cafodd y cais cynllunio, a gafodd gefnogaeth unfrydol gan Gyngor Abertawe yn 2021, ei ddiwygio gan Statkraft i gynnwys dau gyfadferydd cydamserol pellach sy'n caniatáu i'r safle ddarparu sefydlogrwydd yn fwy effeithiol i'r grid. Mae sicrhau cefnogaeth unfrydol unwaith eto i'r cynigion diwygiedig hyn yn arwydd enfawr o hyder yn y prosiect.

Mae Statkraft eisoes yn gweithredu dau Barc Grid Gwyrddach; Keith yng ngogledd-ddwyrain yr Alban, a Lister Drive, yn Lerpwl, ac ar hyn o bryd mae'n datblygu prosiectau sefydlogrwydd grid pellach ledled y DU, fel darparwr blaenllaw o'r dechnoleg hon. Rhoddwyd caniatâd cynllunio hefyd ar gyfer dau Barc Grid Gwyrddach ychwanegol, yng ngorllewin yr Alban.

Bydd Parc Grid Gwyrddach Abertawe hefyd yn darparu cronfa gymunedol o £20,000 y flwyddyn, gan gefnogi prosiectau amgylcheddol yn yr ardal leol, gydol oes y prosiect. Gallai gweithgareddau y gellid eu hystyried ar gyfer grantiau gynnwys archwiliadau effeithlonrwydd ynni o adeiladau cymunedol, gweithgareddau addysgol, hyfforddiant i grwpiau gwirfoddol ar leihau eu hôl troed carbon eu hunain, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Dywedodd Seb Woodward, Rheolwr Prosiect Parc Grid Gwyrddach Abertawe: "Mae ein Parciau Grid Gwyrddach yn adnodd allweddol wrth helpu Cymru i bontio i ynni gwyrdd. Mae'n golygu y byddwn yn cael gwared yn y pen draw ar yr angen i droi ymlaen gorsafoedd pŵer sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil sy'n llygru, dim ond er mwyn darparu sefydlogrwydd i'r grid trydan. Bydd prosiectau fel yr un yma yn Abertawe yn caniatáu mwy o adeiladu ym maes gwynt a solar, a mwy o gysylltu. Bydd hyn yn golygu biliau is i bobl yng Nghymru oherwydd bod ynni adnewyddadwy yn rhatach. Bydd Statkraft yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth ddarparu atebion arloesol fel hyn ac yn helpu i roi diwedd am byth ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil."

Contact

Gary Connor
Media Relations Manager, Statkraft UK