Countries

Global icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Statkraft yn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect solar cyntaf yng Nghymru

18 Mar, 2026

Bydd Fferm Solar Alleston, cynllun 30MW a fydd yn pweru cyfwerth â hyd at 14,000 o gartrefi newydd ar ôl ei hadeiladu

Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer Fferm Solar Alleston, cynllun 30MW rhwng Llandyfái a Phenfro, ger rheilffordd Doc Penfro-Caerfyrddin. Cafodd y safle ei ddewis yn ofalus am ei botensial i ddarparu trydan adnewyddadwy i'r grid, gan helpu i fodloni targedau ynni adnewyddadwy lleol a chenedlaethol.

Cyflwynwyd cais ar gyfer Fferm Solar Alleston i Benderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW) ym mis Rhagfyr 2024, gyda chaniatâd cynllunio'n cael ei roi gan Arolygwyr Cynllunio a benodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. 

Solar farmBu Statkraft yn gweithio i ymgysylltu â chymunedau a thrigolion lleol drwy gydol datblygiad y prosiect, gan gynnal digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu cynnar ym Mhenfro, Doc Penfro a Llandyfái yn yr hydref 2023. Ym mis Hydref a Thachwedd 2024, cynhaliwyd digwyddiadau ymghynghori cyn y cais ym Mhenfro a Llandyfái i arddangos cynlluniau a ddiweddarwyd, oedd yn cynnwys newidiadau yn dilyn adborth y gymuned.

Yn ogystal â chynhyrchu ynni glanach, wedi'i greu gartref, bydd y fferm solar newydd hon hefyd yn cynnig nifer o fuddion eraill, yn cynnwys bioamrywiaeth leol well, hawl tramwy cyhoeddus wedi'i ddargyfeirio, perllan newydd, a phlannu oddeutu 1.4km o berth newydd.

Bydd Fferm Solar Alleston hefyd yn darparu Cyllid Budd Cymunedol yn ystod ei gyfnod gweithredol 40 mlynedd.  Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2028.

Dywedodd Gui Zandomeneghi, Prif Reolwr Prosiect Solar Statkraft: “Rydym yn falch o fod wedi sicrhau caniatâd ar gyfer ein prosiect solar cyntaf yng Nghymru. Bydd Fferm Solar Alleston yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiogelwch ynni gwell, gyda mwy o bŵer wedi'i gynhyrchu gartref a fydd yn helpu i gadw biliau'n sefydlog ar gyfer defnyddwyr a busnesau, gan leihau ein dibyniaeth ar gyflenwadau nwy tramor drud a chyfnewidiol.

“Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu cryn dipyn o gyllid cymunedol, yn ogystal â chyflawni buddion lleol eraill megis hybu bywyd gwyllt. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gymydog da ac yn edrych ymlaen at barhau i feithrin perthynas glòs gyda'r gymuned leol wrth i ni weithio tuag at y cam adeiladu.”

 

Contact

Gary Connor

Senior Media Relations Manager, Statkraft UK