Countries

Global flag icon
Global
Albania flag icon
Albania
Brazil flag icon
Brazil
Chile flag icon
Chile
Croatia flag icon
Croatia
Finland flag icon
Finland
France flag icon
France
Germany flag icon
Germany
India flag icon
India
Ireland flag icon
Ireland
Italy flag icon
Italy
Netherlands flag icon
Netherlands
Norway flag icon
Norway
Peru flag icon
Peru
Poland flag icon
Poland
Portugal flag icon
Portugal
Spain flag icon
Spain
Sweden flag icon
Sweden
Türkiye flag icon
Türkiye
United Kingdom flag icon
United Kingdom
United States flag icon
United States

Cyfleuster Rheoli Ynni, Gogledd Abertawe

United Kingdom / Other activities / Project

Rydym yn cynnig Cyfleuster Rheoli Ynni ger Is-orsaf Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe, ac wedi creu’r dudalen we hon i roi cyfle i chi roi sylwadau neu ofyn cwestiynau. Mae’r prosiect bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio a’r cam nesaf yw ei gyflwyno drwy broses dendro’r Grid Cenedlaethol. Gallwch ddefnyddio’r dudalen we hon o hyd i gadw llygad am ddiweddariadau.


19 AWST, 2021: Statkraft yn cymryd cam arall tuag at adeiladu Parc Grid Gwyrddach yn Abertawe

Yr wythnos diwethaf, daeth Statkraft gam yn nes at ddatblygu Parc Grid Gwyrddach yn Abertawe pan gafodd gymeradwyaeth unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Abertawe. Mae hon yn garreg filltir fawr i’r prosiect, sy’n gorfod mynd drwy’r broses dendro o hyd gyda’r Grid Cenedlaethol a chymryd nifer o gamau eraill cyn cyrraedd y cam adeiladu.


Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Barc Grid Gwyrddach Abertawe a'r camau nesaf.

 

Diweddariad Diweddaraf – 21 Gorffennaf 2021

Diolch i’r holl breswylwyr a grwpiau â diddordeb a roddodd o’u hamser i ymgysylltu â’n hymgynghoriad ynglŷn â’n cais cynllunio ar gyfer Parc Grid Gwyrddach Gogledd Abertawe. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich holl adborth a chwestiynau am y prosiect a byddwn yn ymgorffori hynny yn y prosiect ble bynnag y gallwn.

Cyflwynwyd ein cais cynllunio i Gyngor Abertawe ym mis Ionawr 2021. Disgwyliwn i’r prosiect fynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar 3rd Awst. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y prosiect; byddem yn falch o glywed gennych chi. 

 

Cyflwyno cais am brosiect Sefydlogrwydd Grid Abertawe

10 Chwefror 2021
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynlluniau ar gyfer Parc Grid Gwyrddach arfaethedig wedi'u cyflwyno i Gyngor Abertawe.

Wedi'i leoli i'r dwyrain o Is-orsaf Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe, bydd y cynnig yn helpu i ddatgarboneiddio sector ynni'r DU drwy ganiatáu i'r grid fabwysiadu ynni adnewyddadwy yn well a darparu dewis amgen allyriadau isel i reoleiddio drwy eneradur traddodiadol. Mae'r cynnig yn cynnwys adeiladu system rheoli ynni a 12 o unedau storio batris, gyda seilwaith cysylltiedig a ffordd fynediad estynedig.

Mae'r datblygiad yn cynnwys cynllun tirlunio i blannu coetiroedd i ddarparu sgrin weledol a gwella gwerth bioamrywiaeth y safle. Mae'r cais ar gael i'w weld ar wefan Cyngor Abertawe ac mae'n cynnwys set lawn o luniadau cynllunio, datganiad cynllunio, dylunio a mynediad ac adroddiadau technegol.

Os rhoddir caniatâd i'r prosiect, bwriadwn weithio gyda chyrff masnach a grwpiau busnes eraill i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyflenwyr lleol. Anogir cyflenwyr lleol sydd â diddordeb i gofrestru eu galluoedd ar y gofrestr Cyflenwyr Lleol.

Fel darparwr ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, mae Statkraft ar flaen y gad o ran darparu prosiectau newydd, arloesol sy'n darparu inertia (sefydlogrwydd) i'r grid. Dyfarnwyd pedwar contract sefydlogrwydd i Statkraft gan ESO y Grid Cenedlaethol ym mis Ionawr 2020 ar gyfer dau brosiect ar Lister Drive, Lerpwl a dau yn Keith, yr Alban. Mae Keith ar y trywydd iawn i gefnogi'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy i'r grid erbyn diwedd 2021.

Gallwch weld dogfennau'r cais cynllunio yn www.swansea.gov.uk

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni os hoffech chi gael gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y prosiect.

Diben y Datblygiad

Bwriad y Datblygiad yw cefnogi’r Grid Cenedlaethol gyda’u huchelgais i reoli grid di-garbon erbyn 2025 a datgarboneiddio’r cyflenwad trydan yn gyffredinol. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau’r DU i sicrhau statws Sero-net erbyn 2050.

Mae integreiddio ynni adnewyddadwy i’r grid yn her gynyddol, wrth i gyflenwad yr ynni adnewyddadwy gynyddu ac wrth i bwerdai tanwydd ffosil gau. Mae’n fwyfwy tebygol y bydd amrywiadau mawr mewn cyflenwad a’r galw am ynni yng Nghymru.

Mae'r Grid Cenedlaethol ESO yn esbonio'r her yma:

Mae technolegau adnewyddadwy yn ysbeidiol gan fod y cyflenwad o ynni a gynhyrchir yn dibynnu ar y tywydd. Felly, mae angen cydbwyso’r galw a’r cyflenwad er mwyn atal diffygion a thoriad mewn pŵer. Mae’r Datblygiad hwn yn ddarn o’r jig-so a fydd yn helpu ein rhwydwaith ynni i sicrhau dyfodol di-garbon.

Fel technoleg arloesol, bydd y Datblygiad yn darparu ffordd o ryddhau trydan yn hyblyg a chyflym er mwyn galluogi’r Grid Cenedlaethol i reoleiddio cyflenwad a’r galw am drydan heb allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ar y llaw arall, bydd y gan y Datblygiad y gallu hefyd i amsugno trydan yn gyflym a fydd yn golygu bod modd rheoli gorgyflenwad o’r grid.

 

Y Datblygiad

Mae Safle’r Cais wedi’i leoli i’r gorllewin o Heol Rhydypandy, Treforys, i’r dwyrain o Isbwerdy presennol y Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe, ac i’r de-orllewin o Bwerdy arfaethedig Abergelli, fel y nodir ar y Cynllun Lleoliad. Mae’r safle wedi’i ddewis oherwydd ei fod yn agos i Isbwerdy’r Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe, gan osgoi’r angen am geblau trawsyrru hir.

Dogfennau cynnig, adroddiadau a lluniadau

Bydd y Datblygiad yn ymgorffori cynllun tirlunio i sicrhau sgrinio gweledol ac er mwyn gwella gwerth bioamrywiaeth y safle.