Fferm Wynt Alltwalis
Mae Fferm Wynt Alltwalis ger Coedwig Brechfa i’r gogledd o Gaerfyrddin, ac mae wedi bod ar waith ers 2009.
Mae'r fferm wynt wedi bod yn weithredol ers 2009 ac mae'n cynnwys 10 tyrbin gyda chyfanswm capasiti o 23 MW, gan gynhyrchu trydan sy'n cyfateb i anghenion oddeutu 16,500 o gartrefi ag ynni adnewyddadwy (BEIS - 3,781 kWh y cartref). Y cynhyrchiad blynyddol yw 60.8 GWh.
Ffigurau allweddol
-
60.8 GWhCynhyrchiad blynyddol
-
16 466Cyfatebol cartrefi a wasanaethir
-
£ 100,000 p.a.Cronfa Budd Cymunedol
Company | Ownership share |
Statkraft | 51% |
Cronfa Budd Cymunedol
Mae yna Gronfa Budd Cymunedol sy’n werth bron i £100,000 y flwyddyn ar waith law yn llaw â Fferm Wynt Alltwalis.
Bydd y gronfa ar gael gydol oes y fferm wynt ar gyfer prosiectau neu fentrau yn ward etholiadol Llanfihangel-ar-arth yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd prosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid yn creu cymuned ffyniannus, gan gynnwys prosiectau sy’n canolbwyntio ar:
- Wella’r Gymuned
- Addysg
- Gweithgareddau Awyr Agored
- Cynaliadwyedd
Ers sefydlu’r gronfa, mae Statkraft wedi buddsoddi £797,000 mewn grwpiau, prosiectau a mentrau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gyllid, cysylltwch â gweinyddwr Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis, Meinir Evans:
meinir.evans@btinternet.com
01559 395 699
Hefyd, gallwch lawrlwytho ffurflen gais yma.
Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis
Os ydych am geisio am gefnogaeth y Gronfa i glwb, sefydliad neu cymdeithas o fewn ffiniau etholaeth Llanfihagel ar Arth mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gweinyddydd Meinir Evans am pecyn ymgeisio ar y rhif ffon 01559 395 699 neu thrwy e bost meinir.evans@btinternet.com.
Dyma'r dyddiadau cau i dderbyn ceisiadau
15 Fawrth 2024
14 Fehefin 2024
13 Fedi 2024
Meini Prawf - Alltwalis Community Fund
Cysylltu â ni
Rheolwr y Safle
Glyn Griffiths
Llinell Gymorth Gymunedol
0800 772 0668
UKProjects@statkraft.com
Ymholiadau gan y cyfryngau
Alison Hood
077 2068 0635
alison.hood@statkraft.com